OLCHFA SCHOOL

 

Croeso i Olchfa


Fel prifathro Ysgol Olchfa, mae’n bleser gen i gyflwyno ein hysgol i chi drwy’r prospectws hwn. Gobeithiwn y byddwch o ganlyniad yn cael blas a naws o fywyd yr ysgol.


Mae Olchfa yn ysgol fawr, gyda 1,900 o ddisgyblion,  yn cynnwys 500 o fyfyrwyr yn ein Canolfan Chweched Dosbarth. Rydym yn croesawu disgyblion o ystod eang o gefndiroedd a galluoedd ac rydym yn anelu iwneud arwyddair yr ysgol  ‘Datblygu Potensial yr Unigolyn’ yn realiti i bawb.


Mae maint yr ysgol yn  ein galluogi ni i gynnig rhestr eang o opsiynnau dysgu boed yn bynciau cwricwlaidd neu yn gyfleoedd traws-gwricwlaidd. Er maint yr ysgol rydym yn rhoi sylw a gofal i bob disgybl yn unigol. Rydym yn parchu’r ffaith fod gan bob unigolyn sgiliau a dawn unigryw ei hun, ac mae gan bob un y potensial i lwyddo yn ol ei allu neu yn ol ei gallu.


Rydym yn ysgol lwyddiannus sydd wedi ennill gwobrau. Rydym yn awyddus i arloesi ym maes addysg tra ar yr un pryd yn cydnabod gwerthoedd a dyheadau traddodiadol , gan gynnwys pwysigrwydd llwyddiant arholiadau. Teimlwn fod y cyfuniad o ragoriaeth academaidd ynghyd â datblygiad yr unigolyn yn allweddol i lwyddiant. Credwn mai rol ysgol ydy arwain myfyrwyr ifanc tuag at orwelion ehangach.


Ymfalchiwn yn ein hysgol a’n myfyrwyr. Ymunwch a ni yma yn Ysgol yr Olchfa.


Mr H Davies

In EnglishWelcome_to_Olchfa.html